Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys yn edrych ymlaen at siarad gyda chymunedau ar draws yr ardal dros yr haf hwn mewn nifer o brif ddigwyddiadau.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd tîm Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) yn mynd i Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Sir Benfro, gan roi cyfle i ymwelwyr ddarganfod mwy am waith y swyddfa, siarad â’r tîm a dysgu sut y gallant gymryd rhan a chefnogi cymunedau diogelach.

Os ydych yn ymweld ag un o’r sioeau am ddiwrnod neu’n mynd i’r digwyddiad cyfan, byddem wrth ein boddau yn eich croesawu chi i’n stondin.

Bydd ymwelwyr yn gallu dysgu mwy am y Cynllun Heddlu a Throseddu a sut y mae’n helpu i lywio plismona a diogelwch cymunedol ar draws ardal Dyfed Powys. Bydd y tîm hefyd ar gael i drafod y gwasanaethau a gomisiynir gan SCHTh i gefnogi dioddefwyr trosedd, darparu gwybodaeth ar fentrau diogelwch cymunedol ac ateb cwestiynau ynghylch gwaith y swyddfa.

Os ydych erioed wedi ystyried gwirfoddoli, gall ein tîm hefyd ddweud mwy wrthych am gyfleoedd gwirfoddoli gyda SCHTh, gan gynnwys Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa, Ymwelwyr Lleyg Er Lles Anifeiliaid ac aelodau ein Panel Sicrhau Ansawdd. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi tryloywder, atebolrwydd a hyder y cyhoedd mewn plismona.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:
“Mae digwyddiadau’r haf yn darparu cyfle gwych i siarad â phobl o gymunedau ar draws ardal Dyfed Powys, clywed am y materion sy’n bwysig iddynt a rhannu’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan fy swyddfa.

“Os oes gennych gwestiwn ynghylch plismona, os hoffech ganfod mwy am ein gwaith neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, byddwn yn eich annog i ddod i siarad gyda’r tîm os ydych yn mynd i un o’r digwyddiadau hyn. Rydyn ni bob amser yn gwerthfawrogi’r cyfle i wrando ar bobl leol a chlywed eu barn.”

Gallwch ddod o hyd i SCHTh yn:

Sioe Frenhinol Cymru: Stondin 478-E
Yr Eisteddfod Genedlaethol: Stondin 501-503
Sioe Sir Benfro: 

Rydym yn edrych ymlaen at siarad gydag ymwelwyr drwy gydol yr haf ac rydym yn gobeithio y byddwch yn galw heibio i ddweud helo.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 16/07/2026