Yr wythnos hon, bydd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn gwahodd partneriaid i ymuno â Bord Gron ym Mhencadlys yr Heddlu fel rhan o’i waith parhaus ar ffyrdd yn ardal Dyfed-Powys.  

Rhoddir cyfle i gynrychiolwyr o awdurdodau lleol, Heddlu Dyfed-Powys, GanBwyll a Llywodraeth Cymru gyflwyno eu harbenigedd ar bryderon rhanbarthol a chenedlaethol, meysydd i’w gwella ac argymhellion ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.    

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: 

“Mae’r ford gron hon yn gam pwysig o ran cryfhau gwaith partneriaeth a gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel i bawb sy’n eu defnyddio. Edrychaf ymlaen at groesawu partneriaid i Bencadlys yr Heddlu i drafod sut y gallwn leihau ac atal niwed ar ein ffyrdd a chreu teithiau mwy diogel i bawb.”

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 28/09/2026