Ydych chi erioed wedi meddwl sut allwch chi roi rhywbeth yn ôl i gymunedau ardal Dyfed-Powys, ac ar yr un pryd, ennill sgiliau bywyd go iawn?

Fel rhan o rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae’n rhaid i Dafydd Llywelyn ddal yr heddlu i gyfrif. Ers iddo gychwyn ei swydd, mae CHTh Dafydd Llywelyn wedi creu sawl cynllun gwirfoddoli sy’n anelu i hyrwyddo tryloywder, atebolrwydd a chraffu yn y maes plismona.

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gwirfoddoli, gan weithio ochr yn ochr â Heddlu Dyfed-Powys a’r system cyfiawnder troseddol.

  • Llysgennad Ieuenctid
  • Rhwydwaith Ymgysylltu â Dioddefwyr-Goroeswyr
  • Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd
  • Grŵp Ymgynghorol Annibynnol
  • Panel Sicrhau Ansawdd
  • Cynllun Lles Anifeiliaid
  • Panel Craffu Annibynnol ar Ddalfeydd
  • Panel Craffu Cymunedol

Mae SCHTh yn cynnal gweminar am ddim ar gyfer y rhai sydd eisiau dysgu mwy am y cynlluniau gwirfoddoli lluosog, cwrdd â’r cydlynwyr gwirfoddolwyr, a chlywed gan siaradwyr gwadd. Mae’r digwyddiad, a gynhelir gan Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn anelu i helpu pobl o bob oed ledled ardal Dyfed-Powys i ddod o hyd i rolau gwirfoddoli ystyrlon o fewn y system cyfiawnder troseddol.

 2 Mehefin 2026 (13:00 – 14:00)

 Ar-lein, drwy TEAMS

Bydd cyfranogwyr yn clywed gan yr holl gydlynwyr gwirfoddolwyr, a fydd yn trafod eu rolau ac yn cyflwyno’r cynlluniau gwirfoddoli, a gan aelodau o Heddlu Dyfed-Powys am effaith gadarnhaol y gwirfoddolwyr.

Dywed Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Mae’r cynlluniau gwirfoddoli’n cynnig ffordd ardderchog i bobl o bob oed ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a chyfrannu at wella’r system cyfiawnder troseddol. Mae gwaith y gwirfoddolwyr wedi creu newid mawr o fewn Heddlu Dyfed-Powys. Er enghraifft, ni ddefnyddir siwtiau gwrth-niwed yn y ddalfa bellach o ganlyniad uniongyrchol i waith y Panel Craffu Annibynnol ar Ddalfeydd. Mae gwaith y gwirfoddolwyr wir yn amhrisiadwy, ac rwy’n eu canmol am eu gwaith caled a’u hymrwymiad.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwella eich CV a dysgu mwy am y system cyfiawnder troseddol, cewch docyn am ddim fan hyn:

https://www.eventbrite.co.uk/e/volunteer-hour-volunteering-with-the-dyfed-powys-opcc-tickets-1617398956819?aff=oddtdtcreator&keep_tld=true

 

Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at opcc.communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 19/05/2026