Bwrdd Perfformiad Strategol
Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dyfed-Powys, yr wyf wedi cwblhau Cynllun Heddlu a Throseddu sy’n nodi fy mlaenoriaethau hyd at 2029.
Bydd hyn yn cael ei ategu gan fframwaith perfformiad a fydd hynny'n nodi'r mesurau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod ein cynnydd yn cael ei olrhain ac ar gael ar gyfer craffu cyhoeddus.
Bydd y fframwaith perfformiad yn cynnwys y Mesurau Trosedd a Phlismona Cenedlaethol a sefydlwyd gan y Swyddfa Gartref sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: -
- Lleihau llofruddiaethau a lladdiadau eraill
- Lleihau trais difrifol
- Aflonyddu ar gyflenwi cyffuriau a llinellau cyffuriau
- Lleihau troseddau cymdogaeth, gan gynnwys bwrgleriaeth, dwyn a lladrata
- Gwella bodlonrwydd dioddefwyr, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ddioddefwyr cam-drin domestig
- Mynd i’r afael â seiberdroseddu
Dyma sut mae'r Llu yn cyfrannu at y mesurau cenedlaethol:
- Ionawr 2024-Rhagfyr 2024
- Ebrill 2024-Mawrth 2025
- Mai 2024-Ebrill 2025
- Hydref 2024-Medi 2025
- Ionawr 2025-Rhagfyr 2025
- Ebrill 2025-Mawrth 2026
Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhyd yn archwilio, monitro ac adrodd yn annibynnol ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y Heddlu gyda’r nod o annog gwelliant.
Darllenwch sut mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi wedi graddio perfformiad Heddlu Dyfed-Powys yma.
Bwrdd Perfformiad Strategol
Mae’r Bwrdd Perfformiad Strategol yn cwrdd bob chwarter ac yn rhoi cyfle i oruchwylio a chraffu ar berfformiad yr Heddlu. Bydd yn canolbwyntio ar gyflenwi gwasanaeth yn erbyn y blaenoriaethau a amlinellir yn y Cynllun Heddlu a Throseddu, perfformiad yn erbyn mesurau cenedlaethol a chynhyrchiant sefydliadol.
Yn flaenorol, darparu gwasanaeth yn erbyn fy mlaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Heddlu a Throseddu ei drafod yn Bwrdd Atebolrwydd yr Heddlu.
Dydd Iau 28 Ionawr 2027
Dydd Mawrth 27 Ebrill 2027
Dydd Iau 29 Gorffennaf 2027
Dydd Mawrth 02 Tachwedd 2027
Dydd Mercher 26 Ionawr 2028