Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol
Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed Powys yn darparu’r fforwm i ddwyn partneriaid allweddol ac uwch gynrychiolwyr asiantaethau Cyfiawnder Troseddol sy’n gweithredu o fewn Dyfed-Powys ynghyd i alluogi cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol ac yn atebol am y gwasanaeth a ddarperir i'r dioddefwyr a'r tystion, cyflawni’r targedau cyfiawnder troseddol yn y maes hwn, a gwelliannau o ran darparu cyfiawnder a sicrhau hyder y cyhoedd.
Gweledigaeth Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed Powys yw gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y system cyfiawnder troseddol yn Nyfed Powys, gan gynnwys gwella'r profiad ar gyfer dioddefwyr a thystion, a meithrin hyder yn y system yn ei chyfanrwydd.
Meysydd blaenoriaeth
Ar gyfer 2021/22, mae’r Bwrdd wedi mabwysiadu blaenoriaethau Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, sef:
- Dioddefwyr a Thystion
- Pobl sy’n Troseddu
Mae mynd i'r afael â 'thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol' a 'phlant a phobl ifanc' yn ddau edefyn euraidd ar draws pob blaenoriaeth.
Bydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Dyfed-Powys yn bwydo i mewn i gynllun Cymru Gyfan tra hefyd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol yn yr ardaloedd hyn.
Aelodaeth
- Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
- Heddlu Dyfed-Powys
- Gwasanaeth Erlyn y Goron
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Fawrhydi
- Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
- Y Tîm Troseddau Ieuenctid
- Y Gwasanaeth Tystion Llys
- Bwrdd Iechyd Hywel Dda
- Llywodraethwr Carchar Abertawe
- Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol