Panel Gwarediadau y Tu Allan i’r Llys
Diben y Panel yw asesu, craffu a sicrhau ansawdd gwarediadau y tu allan i’r llys (rhybuddion, datrysiadau cymunedol, gwarediadau adferol ieuenctid ac ati) a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys yn annibynnol. Gall y Panel gyflwyno argymhellion, adborth ar achosion unigol i swyddogion, adrodd am ganfyddiadau, hyrwyddo arfer gorau a nodi datblygiadau posibl o ran polisïau, neu anghenion o ran hyfforddiant i’w hystyried gan yr Heddlu neu asiantaethau cysylltiedig eraill. Ni all y Panel newid canlyniad gwreiddiol yr achos.
Mae aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau cyfiawnder troseddol megis y Llysoedd, y Gwasanaeth Heddlu, tîm troseddau ifanc a'r Gwasanaeth Prawf a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Addroddiadau
- Chwefror 2021: Adolygiad o Achosion Ymosiadau gydag Anafiadau (Ion - Rhagfyr 2020)
- Ebrill 2021: Adolygiad o achosion ar gyfer meddu ar arf, cyflenwi cyffuriau a throseddau cerbydau (Chwef 2020 - Maw 2021)
- Gorffennaf 2021: Adolygiad o Warediadau y Tu Allan i’r Llys sy’n ymwneud â throseddau cyllyll a throseddau rhywiol (Medi 2020 – Ebr 2021)
- Hydref 2021: Adolygiad o achosion lladrata a bwrglera
- Ionawr 2022: Adolygiad o achosion Troseddau Casineb ac Ymosodiadau ar Weithwyr Brys
- Ebrill 2022: Adolygiad o achosion Trais yn erbyn Menywod a Merched
- Awst 2022: Adolygiad o achosion Stelcio ac Aflonyddu
- Hydref 2022: Adolygiad o Droseddau Casineb ac Achosion Arfau Saethu
- Cyfarfod Ebrill 2019: Adolygiad o Achosion Cam-drin Domestig (Rhag 2018 - Ebr 2019)
- Cyfarfod Gorffennaf 2019: Adolygiad o Achosion Twyll a Lladrata gan Bobl Ifainc ac Oedolion ( Tach 2018 - Ebr 2019)
- Cyfarfod Hydref 2019: Adolygiad o Achosion Troseddau Casineb (Gorff 2018 - Meh 2019)
- Cyfarfod Ionawr 2020: Adolygiad o Achosion Troseddau Cyllyll (Mai - Tach 2019)
- Cyfarfod Gorffennaf 2020: Adolygiad o Achosion sy'n gysylltiedig a Covid-19 ac Ymosod Cyffredin
- Cyfarfod Hydref 2020: Adolygiad o Warediadau y Tu Allan i’r Llys ar gyfer meddu ar gyffuriau a reolir, â ffocws ar ddrwgdybiedigion sy’n fenywod a phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (Ion - Rhag 2020).
- Cyfarfod Ebrill 2017: Adolygiad o Chwarter 4 2016/17 (Ion - Maw 2017)
- Cyfarfod Hydref 2017: Adolygiad o Ddigwyddiadau Domestig ac Arfau Saethu (Tach 2016 - Awst 2017)
- Cyfarfod Ionawr 2018: Adolygiad o Ddigwyddiadau Trefn Gyhoeddus (Hyd- Rhag 2017)
- Cyfarfod Ebrill 2018: Adolygiad o Ddigwyddiadau Difrod Troseddol (Rhag 2017 - Chwef 2018)
-
Cyfarfod Gorffennaf 2018: Adolygiad o Achosion o Fyrgleriaeth (Medi 2017 – Mai 2018)