Gorchymyn Gwybodaeth Benodedig
Mae'n ofynnol i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) gyhoeddi rhywfaint o wybodaeth i ganiatáu'r cyhoedd i'w dwyn i gyfrif. Mae Adran 11(1) a (2) Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 yn gosod dyletswydd ar gorff plismona lleol etholedig i gyhoeddi unrhyw wybodaeth a nodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn. Mae Gorchymyn Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Gwybodaeth Benodedig) 2011 (‘y Gorchymyn’) yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chyhoeddi. Cyhoeddir canllawiau ar y gorchymyn ar gov.uk.
Dan ddarpariaeth Gorchymyn Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Gwybodaeth Benodedig) (Diwygiad) 2021 (‘y Gorchymyn diwygio’), a fydd yn dod i rym ar 31 Mai 2021, rhaid cyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad yr heddlu yn erbyn blaenoriaethau cenedlaethol y Llywodraeth ar gyfer plismona, adroddiadau perfformiad Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub EF (AHGTAEF) ar yr heddlu, a thrin cwynion hefyd. Mae’r Gorchymyn diwygio hefyd yn nodi bod yn rhaid cyhoeddi’r wybodaeth hon mewn man amlwg ar wefan y corff plismona lleol etholedig.
Canfu cam cyntaf Adolygiad CHTh na all y cyhoedd gael mynediad i wybodaeth ynghylch pa mor dda mae eu heddlu’n gwneud bob amser, sy’n hanfodol os ydynt am ddal Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i gyfrif. Er mwyn sicrhau cysondeb o ran gweithredu’r Gorchymyn hwn, mae’r canllawiau hyn yn nodi manylion pellach am bob gofyniad adrodd newydd i helpu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i benderfynu ar y ffordd orau o’u cyfleu i’r cyhoedd.