Ystadegau Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol (Adolygiad Achos YGG)
Mae'r Adolygiad Achos yn grymuso’r rhai sydd wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aml i ofyn am adolygiad o'r camau mae asiantaethau partner wedi'u cymryd i ddatrys eu pryderon. I fod yn gymwys, mae angen ichi:
- tri digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y chwe mis diwethaf i’r Cyngor, yr heddlu neu landlord lle nad oes camau effeithiol wedi’u cymryd
- un digwyddiad o drosedd neu ddigwyddiad casineb lle na chymerwyd camau effeithiol
- Mae person sy’n ddigon uchel o fewn awdurdod cyfrifol yn adolygu’r dystiolaeth a gyflwynir gan bob parti ac yn credu bod digon o dystiolaeth i gychwyn adolygiad achos waeth beth fo rôl ceisydd y Adolygiad Achos YGG
Mae angen i bob un o’r digwyddiadau fod wedi cael eu riportio o fewn un mis iddynt ddigwydd a rhaid i chi wneud cais am Adolygiad Achos YGG o fewn chwe mis i’r digwyddiad diwethaf. Gall y dioddefwr fod yn fusnes, unigolyn neu’n grŵp cymunedol.
Sut i Ddefnyddio’r Adolygiad Achos
Yn ardal Dyfed-Powys ni yw'r pwynt cysylltu unigol ar gyfer y Adolygiad Achos YGG.
Gallwch wneud cais ar-lein, drwy anfon neges ebost neu drwy ein ffonio 101 a gofyn am ffurflen gais y Adolygiad Achos YGG.
Gallwch ysgrifennu aton ni hefyd i ofyn am y ffurflen gais:
Adolygiad Achos YGG
Ganolfan Cymunedau Mwy Diogel
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
BLWCH POST 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Os nad yw dioddefwr/dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fodlon ar yr ymateb a gawsant gan Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed–Powys, gellir uwchgyfeirio sbardun cymunedol i Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Gweler fwy o manylion yma: Cwynion
Ystadegau Blwyddyn Calendr: