Mae’r Comisiynydd Llywelyn wedi cyhoeddi enillydd raffl fawr ei arolwg ar gyfer pobl ifainc ar ôl dewis yr enillydd ar hap yn fyw. 

Llongyfarchiadau i Zoe, sydd wedi ennill crys Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe wedi’i lofnodi gan Gonçalo Franco.

Gwahoddodd yr arolwg, a ddatblygwyd gan Lysgenhadon Ieuenctid y Comisiynydd Llywelyn fel rhan o’u prosiect Ieuenctid yw’r Dyfodol, bobl ifainc o 14 i 25 oed ledled ardal Dyfed-Powys i rannu eu profiadau, eu pryderon a’u barn am drosedd yn eu cymunedau lleol.

Mae’r arolwg bellach wedi cau, a bydd y canfyddiadau’n cael eu crynhoi’n adroddiad, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Bydd yr adborth yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’r materion sydd bwysicaf i bobl ifainc ac yn helpu i hysbysu mentrau, gwasanaethau a chyfleoedd yn y dyfodol.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
Hoffwn ddiolch i’r holl unigolion ifainc a gymerodd yr amser i gwblhau’r arolwg a rhannu eu barn.

“Mae ein Llysgenhadon Ifainc wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y prosiect hwn, ac mae’n dda gennyf weld pobl ifainc yn cymryd diddordeb yn y materion sy’n effeithio arnyn nhw.

“Bydd y canfyddiadau’n helpu ni i ddeall eu pryderon a’u profiadau’n well, gan sicrhau bod eu lleisiau’n parhau i hysbysu ein gwaith a’r ffordd yr ydym yn ymdrin â diogelwch cymunedol ar draws ardal Dyfed-Powys.”

Ry’n ni’n derbyn ceisiadau nawr ar gyfer y Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid. Cewch ragor o wybodaeth ar: Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 11/11/2026