Llysgenhadon Ieuenctid SCHTh yn Lansio Arolwg Newydd i Bobl Ifanc
Mae Llysgenhadon Ieuenctid Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn annog pobl ifanc ledled ardal Heddlu Dyfed-Powys i gymryd rhan mewn arolwg newydd sy'n archwilio eu profiadau, eu pryderon, a'u barn ar droseddu yn eu cymunedau lleol.
Mae'r arolwg, a gynlluniwyd gan ein llysgenhadon ieuenctid fel rhan o'u Prosiect Ieuenctid y Dyfodol newydd, yn canolbwyntio ar gasglu adborth gonest gan bobl ifanc 14 i 25 oed ar y materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Bydd mewnwelediadau o'r arolwg yn helpu i lywio mentrau, gwasanaethau, a chyfleoedd yn y dyfodol, gan sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion a phryderon pobl ifanc yn ardal blismona Heddlu Dyfed-Powys yn well.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn:
“Mae eich barn chi wir yn bwysig. Rwy'n annog pob person ifanc i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Mae adborth pobl ifanc yn hanfodol i helpu fy llysgenhadon ieuenctid, fy swyddfa, a Heddlu Dyfed-Powys i geisio barn a phryderon ein pobl ifanc sy'n byw yn ein cymunedau. Gadewch i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i gadw Dyfed a Phowys yn ddiogel i bobl ifanc.”
Bydd gan gyfranogwyr gyfle hefyd i gymryd rhan mewn raffl fawr i ennill crys pêl droed Dinas Abertawe wedi’i lofnodi gan Gonçalo Franco. Cyhoeddir yr enillydd ym mis Medi. Darganfod mwy: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink
Anogir pob person ifanc 14 i 25 oed i gymryd rhan a rhannu'r arolwg yn eang â ffrindiau a rhwydweithiau i sicrhau bod cymaint o leisiau â phosibl yn cael eu cynrychioli.
Cymerwch ran yn yr arolwg yma: https://forms.office.com/e/Fdf1aLyqZX?origin=lprLink
Mae'r arolwg yn cau ar 25 Medi 2026.
Am ragor o wybodaeth am y llysgenhadon ieuenctid a'u prosiect, ewch i: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-chraffu/cynlluniau-gwirfoddoli/llysgenhadon-ieuenctid/
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 09/07/2026