Mae pobl ifanc o bob cwr o ardal Heddlu Dyfed-Powys yn helpu i lunio dyfodol plismona ac ymgysylltu cymunedol yn dilyn Diwrnod Cynllunio y Llysgenhadon Ieuenctid, a gynhaliwyd ym mhencadlys yr heddlu ar 23 Mawrth.

Daeth y digwyddiad ag aelodau o raglen Llysgenhadon Ieuenctid Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ynghyd, gan gynnig cyfle iddynt rannu eu barn, eu profiadau a’u syniadau ar faterion allweddol sy’n effeithio ar bobl ifanc yn eu cymunedau.

Yn ystod y dydd, cyfarfu’r llysgenhadon â’r Prif Gwnstabl, gan gael cipolwg unigryw ar blismona ar y lefel uchaf a thrafod y materion sydd bwysicaf iddyn nhw.

Bu’r sesiwn hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu’r Strategaeth Ymgysylltu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc newydd, gan sicrhau bod lleisiau ifanc wrth wraidd sut y mae Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a phartneriaid plismona yn ymgysylltu â chenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys:
“Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yn cael lleisio’u barn wrth i ni lunio’r gwasanaethau sy’n effeithio ar eu bywydau nhw. Mae ein rhaglen Llysgenhadon Ieuenctid yn rhoi llwyfan i’w llais gael ei glywed, a rhoddodd y sesiwn gynllunio hon gyfle gwerthfawr i gydweithio i ddylanwadu ar ein dull ni o ymgysylltu yn y dyfodol.

“Drwy gynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol yn natblygiad ein Strategaeth Ymgysylltu ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, rydym yn sicrhau ei bod yn adlewyrchu eu hanghenion, eu profiadau a’u syniadau nhw. Rwy’n ddiolchgar i’n holl lysgenhadon am eu brwdfrydedd, eu mewnwelediad a’u hymrwymiad parhaus.”

Mae rhaglen y Llysgenhadon Ieuenctid yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod safbwyntiau pobl ifanc wedi’u hymgorffori yng ngwaith Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gan gefnogi gwneud penderfyniadau mwy cynhwysol, gwybodus ac effeithiol.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 24/03/2026