Dewch o Hyd i’ch Rôl Mewn Gwirfoddoli: Cyfleoedd Gwirfoddoli SCHTh
Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi lansio amrywiaeth o gynlluniau gwirfoddoli yn ystod ei gyfnod fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys. Mae’r cynlluniau gwirfoddoli hyn yn anelu i ddadansoddi gwaith Heddlu Dyfed-Powys a chraffu arno er mwyn sicrhau y cynigir gwasanaeth o’r safon uchaf i’r cyhoedd. Mae’r cynlluniau gwirfoddoli’n hyrwyddo atebolrwydd a thryloywder mewn plismona.
Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd: A oes gennych ddiddordeb yn y system cyfiawnder troseddol? Ymwelwch â dalfeydd yr heddlu i wirio ar les carcharorion a sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal.
Lles Anifeiliaid: Os ydych chi wrth eich bodd ag anifeiliaid, hwn yw’r cynllun i chi. Mae gwirfoddolwyr yn ymweld â thrinwyr cŵn a’u cŵn i edrych ar amodau a lles cŵn Dyfed-Powys.
Llysgenhadon Ieuenctid: Datblygwch sgiliau a chrëwch ymgyrchoedd cyffrous sy’n codi ymwybyddiaeth o flaenoriaethau pobl ifainc. Sicrhewch fod pobl ifainc yn llunio dyfodol plismona.
Panel Sicrhau Ansawdd: Craffwch ar ansawdd cyswllt yr Heddlu â’r cyhoedd drwy wylio darnau ffilm byw gan swyddogion yn ystod eu sifftiau.
Grŵp Ymgynghorol Annibynnol: Ydych chi eisiau diogelu cymunedau Dyfed-Powys? Mae’r grŵp hwn yn caniatáu i aelodau o’r cyhoedd ein cynghori ynghylch materion penodol a nodwyd gan yr heddlu a SCHTh.
Rhwydwaith Ymgysylltu â Dioddefwyr-Goroeswyr: Os hoffech gael y cyfle i rannu eich barn am y gwasanaethau mae dioddefwyr yn derbyn drwy’r system cyfiawnder troseddol, ymunwch â’r Rhwydwaith.
Panel Craffu Annibynnol ar Ddalfeydd: Diben cyffredinol y Panel Craffu Annibynnol ar Ddalfeydd yw sicrhau bod gweithredu gweithdrefnau dalfa a chadw’r heddlu yn Nyfed-Powys yn briodol, cyfreithlon a gofynnol.
Yn ddiweddar, mae aelodau o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu wedi bod yn mynd i ffeiriau gyrfaoedd a gwirfoddoli Addysg Uwch er mwy hyrwyddo’r cynlluniau gwirfoddoli mae SCHTh yn eu cynnig ac annog cyfranogiad y gymuned.
Siaradodd aelodau staff gyda myfyrwyr addysg uwch am y ffordd y gall gwirfoddoli ddatblygu sgiliau a llwybrau gyrfa, a gwella CV. Gall gwirfoddoli hefyd gryfhau cysylltiadau cymunedol a chyfrannu’n gadarnhaol at y system cyfiawnder troseddol.
Dywedodd y Comisiynydd Llywelyn:
“Diolch yn fawr iawn i fyfyrwyr a staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth am eich amser a’ch sgyrsiau diddorol gydag aelodau o’m Swyddfa. Rwy’n annog gwirfoddolwyr o unrhyw oed a chefndir – mae eich llais a’ch barn yn bwysig.”
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cynlluniau gwirfoddoli:
E-bost: opcc@dyfed-powys.police.uk
Gwefan: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/en/accountability-and-scrutiny/volunteers/
Article Date: 27/10/2025