Cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd Dyfed-Powys yn derbyn gwobr ansawdd genedlaethol
Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh) Dyfed-Powys wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am safon uchel ei Chynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ar ôl derbyn Gwobr Sicrwydd Ansawdd Aur gan y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.
Mae’r wobr, a gyflwynwyd mewn seremoni yn Llundain ar 8 Gorffennaf, yn cydnabod cynlluniau sy’n arddangos rhagoriaeth o ran cefnogi Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd ac yn sicrhau goruchwyliaeth annibynnol effeithiol o ddalfeydd yr heddlu.
Gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi o gymunedau lleol sy’n cynnal ymweliadau dirybudd â dalfeydd yr heddlu i wirio hawliau, lles a thriniaeth pobl sy’n cael eu cadw yn nalfa’r heddlu yw Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd. Adroddir am eu canfyddiadau wrth Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gan helpu i ddarparu tryloywder, atebolrwydd a hyder cyhoeddus mewn plismona.
Mae Fframwaith Sicrhau Ansawdd y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn asesu pa mor dda mae cynlluniau ymwelwyr annibynnol â dalfeydd ledled Cymru a Lloegr yn bodloni safonau cenedlaethol, gan gydnabod y rhai sy’n arddangos arfer da, rheolaeth effeithiol ac ymrwymiad tuag at wella parhaus.
Gan groesawu’r wobr, dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Mae Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn chwarae rhan hollbwysig o ran cynnal hyder cyhoeddus mewn plismona drwy ddarparu goruchwyliaeth annibynnol o’n dalfeydd.
“Mae’r gydnabyddiaeth genedlaethol hon yn adlewyrchu ymrwymiad a phroffesiynoldeb ein gwirfoddolwyr a’r staff sy’n cefnogi’r cynllun. Gyda’i gilydd, maen nhw’n helpu i sicrhau bod pobl sy’n cael eu cadw mewn dalfeydd heddlu’n cael eu trin yn deg, gydag urddas a pharch.
“Hoffwn ddiolch i bob gwirfoddolwr am roi eu hamser a’u hymrwymiad i’r rôl bwysig hon. Mae eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn helpu i gryfhau tryloywder ac atebolrwydd ar draws plismona yn ardal Dyfed-Powys.”
Derbyniodd Tom, Gweithiwr Achos Ansawdd Gwasanaeth yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y Wobr Sicrwydd Ansawdd Aur ar ran y cynllun yn y seremoni yn Llundain.
Dywedodd y Fonesig Anne Owers, Cadeirydd y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd:
“Unwaith eto, mae’r gwobrau hyn yn dangos gwerth a phwysigrwydd ymweliadau annibynnol â dalfeydd, gyda hyd yn oed mwy o gynlluniau’n derbyn y radd ‘blatinwm’ uchaf. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu’r gwaith hanfodol mae’r Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd yn ei wneud, o ran rhoi cefnogaeth a hyfforddiant i wirfoddolwyr a chynlluniau ledled y wlad.”
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 08/07/2026