Treuliodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) ddiwrnod cynhyrchiol yn ymgysylltu â phobl ifainc, timoedd plismona lleol, a chynrychiolwyr cymunedol yn ystod cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ledled Sir Benfro. Tynnodd y diwrnod ymgysylltu, a luniwyd i hyrwyddo cysylltiadau cryfach a gwella mentrau sy’n canolbwyntio ar ieuenctid, sylw at bwysigrwydd cydweithio wrth lunio blaenoriaethau plismona a rhai cymunedol.

Dechreuodd y diwrnod gyda sesiwn holi ac ateb yng Ngholeg Sir Benfro fel rhan o’u Hwythnos Ffocws. Atebodd CHTh gwestiynau gan ddysgwyr, a oedd yn ymdrin â phynciau megis diogelwch cymunedol, mentrau cymorth ieuenctid, a phwysigrwydd lleisiau ifainc o ran llunio strategaethau plismona lleol. Rhoddwyd cyfle i’r dysgwyr rannu eu safbwyntiau a’u syniadau, gan greu deialog gwerthfawr am y materion sydd bwysicaf iddynt. 

Ar ôl hyn, cynhaliodd CHTh gyfarfod byr gyda llysgennad ifanc ac aelodau o’r Grŵp Gweithredol Dysgwyr yn y coleg. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar brosiectau a arweinir gan ieuenctid a sut y gall pobl ifainc gyfrannu at wella eu cymunedau. Rhoddodd y cyfarfod lwyfan i rannu syniadau ar ddatblygu ymgysylltiad cryfach rhwng pobl ifainc a’r heddlu.

Am hanner dydd, ymwelodd CHTh ag Aberdaugleddau i gwrdd â’r Tîm Plismona Bro. Roedd y cyfarfod yn cynnwys trafodaethau am heriau a llwyddiannau lleol. Ar ôl y cyfarfod, ymwelwyd â grŵp ieuenctid lleol. Tynnodd yr ymweliad sylw at y gwaith sy’n mynd rhagddo i ymgysylltu â phobl ifainc ar lawr gwlad, gan roi cyfleoedd iddynt ffynnu a chyfrannu’n gadarnhaol i’w cymunedau.

Aeth y prynhawn rhagddo gyda chyfarfod yng ngorsaf heddlu Hwlffordd gyda’r Uwch-arolygydd Craig Templeton. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar flaenoriaethau plismona ar gyfer yr ardal a strategaethau i fynd i’r afael â phryderon cymunedol, gan sicrhau ymagwedd gydlynol rhwng swyddogion heddlu a swyddfa’r CHTh.

Daeth y diwrnod i ben gyda chyfarfod ar-lein a oedd yn canolbwyntio ar gysylltiad yr heddlu a SCHTh â chyfiawnder ieuenctid. Caniataodd y sesiwn olaf hwn y CHTh i adlewyrchu ar fewnwelediadau’r dydd ac archwilio sut y gallent hysbysu mentrau yn y dyfodol sydd wedi’u hanelu at wella canlyniadau ar gyfer pobl ifainc.

Gan adlewyrchu ar y dydd, dywedodd CHTh:

“Mae heddiw wedi bod yn gyfle amhrisiadwy i wrando, dysgu, ac ymgysylltu â phobl ifainc, grwpiau cymunedol, a thimoedd plismona lleol. Mae eu syniadau, profiadau ac adborth yn hanfodol ar gyfer llunio dyfodol mwy diogel a chynhwysol ar gyfer Sir Benfro. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod ein cymunedau’n aros yn llefydd diogel a chefnogol i bawb.”

Tanlinellodd y diwrnod ymgysylltu ymrwymiad CHTh tuag at fwyhau lleisiau ieuenctid a chryfhau partneriaethau cymunedol ledled y rhanbarth.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 28/01/2025