CHTh yn annog Sefydliadau, Ysgolion a Chymunedau i Ymuno â’r Ymgyrch i Ddod â Thrais yn Erbyn Menywod a Merched i Ben

Ar 25 Tachwedd, mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn galw ar sefydliadau, ysgolion a grwpiau cymunedol ledled ardal Dyfed-Powys i gymryd rhan weithredol yn Niwrnod Rhuban Gwyn, sef ymgyrch genedlaethol i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd CHTh yn mynd i gyfres o ddigwyddiadau yng Nghaerfyrddin, gan gynnwys Taith Gerdded Rhuban Gwyn sy’n cychwyn am 1:30y.h. Bydd y daith gerdded yn arwain at Ganolfan Fenter Sir Gaerfyrddin, lle bydd y Comisiynydd yn rhoi araith a fydd yn tynnu sylw at rôl allweddol cymunedau mewn mynd i’r afael â thrais ac aflonyddu.  

Dywedodd y Comisiynydd Llywelyn: "Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ein hatgoffa am yr angen parhaus i herio a newid yr ymddygiadau a’r agweddau sy’n cynnal trais yn erbyn menywod a merched. Drwy sefyll gyda’n gilydd, gallwn greu cymunedau mwy diogel a mwy cefnogol i bawb."

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys areithiau gan Wasanaeth Cam-drin Domestig Sir Gaerfyrddin, cynrychiolwyr ieuenctid lleol, a drama ddogfen y Cyngor Ieuenctid, ‘Codi Llais yn Erbyn Trais’, sy’n mynd i’r afael ag effeithiau cam-drin domestig.

Yn ogystal â mynd i’r daith gerdded a’r areithiau, mae CHTh yn annog sefydliadau ac ysgolion i gymryd rhan drwy:  
- Hyrwyddo’r Addewid Rhuban Gwyn, lle mae unigolion yn addo peidio byth â chyflawni, esgusodi, na chadw’n dawel am drais.
- Rhannu adnoddau a gwybodaeth i gefnogi dioddefwyr a herio ymddygiadau niweidiol.

Ar gyfer y rhai sydd eisiau cymryd rhan neu ddod o hyd i ddigwyddiadau yn eu hardal nhw, mae manylion pellach ar gael fan hyn: https://www.whiteribbon.org.uk/wrd24   

Ychwanegodd y Comisiynydd Llywelyn: "Gyda’n gilydd, mae gennym ni’r grym i ysbrydoli newid a sicrhau nad oes gan drais ac aflonyddu le yn ein cymdeithas. Anogaf bawb i gymryd rhan yn Niwrnod Rhuban Gwyn a helpu i wneud gwahaniaeth." 

Gadewch inni ddod at ein gilydd ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn i greu dyfodol sy’n rhydd rhag trais

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 03/05/2024