ASB Awareness Week

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, yn cefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2024, menter genedlaethol sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a hyrwyddo cymunedau mwy diogel. Mae ymgyrch eleni, a gynhelir rhwng 18 a 24 Tachwedd, yn dilyn y thema #GwneudCymunedau’nFwyDiogel. Bob dydd byddwn yn tynnu sylw at wahanol agweddau ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a ffyrdd o fynd i’r afael ag ef.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gyfle pwysig i Ddyfed-Powys ailddatgan ei ymrwymiad i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac i dynnu sylw at y gwaith a wneir mewn partneriaeth â gwasanaethau, sefydliadau a chymunedau lleol. Bydd pob diwrnod yn ystod yr wythnos yn canolbwyntio ar thema unigryw, gan annog sgwrs, codi ymwybyddiaeth, a symbylu gweithredu i wneud ein cymdogaethau yn fwy diogel i bawb.

Dydd Llun – Diwrnod Partneriaeth
Dechreuwn yr wythnos trwy ddathlu'r partneriaethau amhrisiadwy sy'n helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gan weithio'n agos gydag ystod o sefydliadau, mae Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn cydweithio i ddarparu cymorth ac adnoddau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithiol. Dysgwch fwy am ein partneriaid yma.

Dydd Mawrth – Diwrnod Dioddefwyr
Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith sylweddol ar unigolion a theuluoedd. Ar Ddiwrnod Dioddefwyr, rydym yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i’r rhai y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio arnynt drwy ein partneriaeth â gwasanaethau dioddefwyr. Mae’r diwrnod hwn yn ein hatgoffa bod cymorth ar gael, ac ni ddylai neb deimlo’n unig wrth wynebu effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dydd Mercher – Diwrnod Dewch i Siarad am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae lleisiau cymunedol yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Heddiw, rydym yn annog sgyrsiau agored am ymddygiad gwrthgymdeithasol a phwysigrwydd adrodd am ddigwyddiadau. Drwy siarad am ymddygiad gwrthgymdeithasol a rhannu adnoddau, gall pob un ohonom chwarae rhan mewn creu mannau mwy diogel.

Dydd Iau – Diwrnod Arwyr Cymunedol
Ar Ddiwrnod Arwyr Cymunedol, rydym yn cydnabod unigolion a grwpiau sy’n sefyll yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r arwyr bob dydd hyn yn cyfrannu at ddiogelwch a lles eu cymdogaethau, ac mae eu hymdrechion yn dangos grym ysbryd cymunedol wrth fynd i’r afael â materion lleol.

Dydd Gwener – Diwrnod Pobl Ifanc
Mae pobl ifanc wrth galon ein cymunedau ac yn chwarae rhan hollbwysig wrth lunio dyfodol mwy diogel. Mae Llysgenhadon Ieuenctid Dyfed-Powys yn cymryd rhan weithredol mewn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a chodi ymwybyddiaeth ymhlith eu cyfoedion. Ar Ddiwrnod Pobl Ifanc, rydym yn dathlu eu cyfraniadau ac yn annog eraill i ymuno â nhw i wneud gwahaniaeth.

Dydd Sadwrn – Diwrnod Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Iechyd
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol nid yn unig yn effeithio ar gymunedau ond gall hefyd gael effeithiau parhaol ar iechyd meddwl. Mae Diwrnod Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Iechyd yn codi ymwybyddiaeth o'r materion hyn, gan ein hatgoffa o bwysigrwydd mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol i wella lles cyffredinol yn ein cymunedau.

Dydd Sul – Diwrnod Gweithredu Cymunedol
Daw'r wythnos i ben gyda Diwrnod Gweithredu Cymunedol, galwad i weithredu i bawb gymryd rhan mewn ymdrechion yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym yn annog preswylwyr i ddysgu mwy am y broses Adolygu Achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sy'n galluogi unigolion i geisio cymorth pellach os ydynt yn credu nad yw materion ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cael sylw digonol. Archwiliwch ein proses Adolygu Achosion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac ystadegau yma.

Meddai’r Comisiynydd Dafydd Llywelyn, “Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gyfle i ni ddod at ein gilydd a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n effeithio ar ein cymunedau. Drwy weithio gyda’n partneriaid, cefnogi dioddefwyr, ac ymgysylltu â phobl ifanc, rydym yn cymryd camau i greu amgylcheddau mwy diogel ac iachach ar draws Dyfed-Powys.”

Drwy Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2024, mae Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gydweithio â chymunedau i sicrhau bod pob preswylydd yn teimlo’n ddiogel ac yn cael ei gefnogi. Dilynwch ni yr wythnos hon ar gyfryngau cymdeithasol yn @DPOPCC, ymunwch â'r sgwrs gyda #GwneudCymunedau'nFwyDiogel, a darganfyddwch sut y gallwch chi gymryd rhan.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 18/11/2024