Mae Ymddiriedolaeth Nelson wedi agor canolfan newydd i fenywod yng Nghaerfyrddin yn swyddogol. Y mae wedi’i llunio i gynnig gwasanaethau hanfodol a man diogel ar gyfer menywod yn y gymuned sy’n wynebu amgylchiadau heriol. Mae’r fenter hon, a ariennir yn rhannol gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), Dafydd Llywelyn, yn ffurfio rhan o ymdrech ehangach i ddarparu cymorth yn benodol i rywedd yn ardal Dyfed-Powys.  

Bydd Canolfan i Fenywod Caerfyrddin yn gwasanaethu fel adnodd penodol ar gyfer menywod sy’n profi materion megis trais domestig, caethiwed, digartrefedd ac anawsterau iechyd meddwl. Drwy gynnig gwasanaethau hanfodol mewn amgylchedd diogel a chefnogol, mae Ymddiriedolaeth Nelson yn anelu i helpu’r menywod hyn i ailadeiladu eu bywydau ac adennill annibyniaeth.


Aeth Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, i’r seremoni agoriadol, a chanmolodd waith Ymddiriedolaeth Nelson. "Yr ydym yn falch o ddarparu cymorth ar gyfer y fenter hanfodol hon. Mae sicrhau bod gan fenywod yn ein hardal fynediad i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn flaenoriaeth allweddol. Bydd y ganolfan newydd hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o fenywod yn ein cymuned."

Bydd Ymddiriedolaeth Nelson, sef elusen arweiniol sy’n arbenigo mewn cefnogi menywod sy’n agored i niwed, yn rheoli’r ganolfan, gan gynnig amrediad o wasanaethau, megis cwnsela, hyfforddiant sgiliau, a chymorth eiriolaeth. Mae’r elusen wedi ymrwymo ers tro byd i fynd i’r afael â’r heriau unigryw a wynebir gan fenywod, ac mae agor Canolfan Caerfyrddin yn nodi cam pwysig arall yn ei chenhadaeth.  

"Yr ydym wedi ymrwymo i ddarparu man diogel lle gall menywod gael mynediad i’r cymorth sydd angen arnynt i ffynnu," meddai llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Nelson. "Mae’r ganolfan newydd hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus tuag at helpu menywod i oresgyn amgylchiadau anodd ac adeiladu dyfodol disgleiriach."

Mae’r cyllid a ddarparwyd gan y CHTh yn rhan o gynllun peilot wedi’i anelu at gryfhau gwasanaethau cymorth cymunedol yn ardal Dyfed-Powys. Er mai Ymddiriedolaeth Nelson sy’n arwain y fenter, mae cyfraniad CHTh yn sicrhau bod gan y ganolfan yng Nghaerfyrddin yr adnoddau gofynnol ar gyfer cynnig cymorth wedi’i deilwra i’r menywod sydd fwyaf ei angen.

Am ragor o wybodaeth am Ganolfan i Fenywod Caerfyrddin a’r gwasanaethau sydd ar gael, galwch heibio i wefan Ymddiriedolaeth Nelson ar https://www.nelsontrust.com.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 30/09/2024