Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) yn helpu pobl i aros yn ddiogel yr haf hwn drwy roi gorchuddion potel gwrth-sbeicio i ffwrdd am ddim mewn amryw o ddigwyddiadau cymunedol a haf ledled ardal Dyfed-Powys.

Mae’r gorchuddion amldro, a ariennir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn ffitio’n ddiogel dros y rhan fwyaf o boteli, gan helpu i leihau’r perygl y bydd diodydd yn cael eu sbeicio pan mae pobl allan yn mwynhau gwyliau, sioeau a digwyddiadau eraill.

Mae’r fenter yn ffurfio rhan o waith parhaus Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i gefnogi cymunedau mwy diogel a chodi ymwybyddiaeth o ddiogelwch personol.

Os fyddwch chi’n ymweld â’n stondin mewn digwyddiad dros yr haf, dewch i ddweud helo wrth y tîm, casglu gorchudd potel am ddim, a darganfod mwy am y gwaith ry’n ni’n ei wneud i helpu i gadw ein cymunedau’n ddiogel. 

Cofiwch, os fyddwch chi byth yn teimlo’n anniogel neu’n credu bod eich diod wedi’i sbeicio, dywedwch wrth ffrind rydych chi’n ymddiried ynddo, aelod o staff y digwyddiad, neu’r heddlu cyn gynted â phosibl.

Arhoswch yn ddiogel yr haf hwn!

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 01/08/2026