Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Cwynion yn erbyn y Prif Gwnstabl
Sut ydw i’n gwneud cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl?
Gellir gwneud cwynion yn erbyn y Prif Gwnstabl drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:
- E-bost: opcc@dyfed-powys.police.uk
- Drwy’r Post: SCHTh, Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF
Pa wybodaeth ddylwn i gynnwys wrth wneud cwyn?
Wrth wneud eich cwyn, dylech gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl am yr hyn ddigwyddodd, megis:
- Beth wnaeth, neu beth ddywedodd, y Prif Gwnstabl?
- Amserau a dyddiadau.
- A oedd tystion neu dystiolaeth, megis dogfennau neu ffotograffau?
- Pa ganlyniad ydych chi eisiau’i gael?
Beth sy’n cael ei hystyried fel cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl?
Dim ond pan mae cwyn yn ymwneud ag ymddygiad y Prif Gwnstabl y mae CHTh yn awdurdod priodol.
Os yw’n ymwneud â phenderfyniadau’r heddlu yn gyffredinol, neu am bŵer dirprwyedig yn hytrach nag ymddygiad y Prif Gwnstabl, dylid cyfeirio’r materion hyn at yr Adran Safonau Proffesiynol.
Cwynion ar ôl i’r Prif Gwnstabl annerch y cyhoedd
Gellir ond gwneud cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl pan mae’n annerch y cyhoedd os cafodd yr achwynydd ei effeithio’n andwyol gan yr hyn a ddywedwyd.
Diffiniad ‘effaith andwyol’
Ystyrir bod unigolyn wedi’i effeithio’n andwyol os yw wedi dioddef unrhyw fath o golled, difrod, gofid neu anghyfleustra o ganlyniad i’r mater y gwneir cwyn amdano, os yw wedi’i roi mewn perygl neu wedi’i roi dan fygythiad o gael ei effeithio’n andwyol yn ormodol fel arall.
A gaf i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad ynglŷn â’r gŵyn?
Os oedd eich cwyn yn ymwneud â’r Prif Gwnstabl, cewch wybod pwy y dylech gysylltu â nhw os ydych chi eisiau gwneud cais am adolygiad yn eich llythyr canlyniad.
Adolygiadau o’r ffordd yr ymdriniwyd â chwynion
Pryd allwch chi ofyn i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys am Adolygiad o’ch cwyn?
Os ydych chi’n anfodlon â chanlyniad eich cwyn, efallai yr hoffech i’r ffordd y cafodd ei thrin gael ei hadolygu’n annibynnol.
Os yw’ch cwyn wedi’i chofnodi o dan Atodlen 3 Deddf Diwygio’r Heddlu 2002, sy’n golygu ei bod wedi’i hystyried a’i chwblhau gan yr Adran Safonau Proffesiynol, mae gennych hawl i wneud cais am Adolygiad o ganlyniad y gŵyn. Bydd yr Adran Safonau Proffesiynol yn rhoi gwybod ichi am eich hawliau o fewn ei llythyr canlyniad.
Bydd yr Adolygiad yn ystyried pa un ai a yw’r ffordd y cafodd eich cwyn ei thrin a/neu’r canlyniad yn rhesymol a chymesur.
Sut ellir gwneud cais am Adolygiad?
Rhaid gwneud cais am Adolygiad o fewn 28 diwrnod ar ôl i ganlyniad ysgrifenedig eich cwyn gael ei anfon.
Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig gan nodi'r wybodaeth ganlynol:
- Manylion eich cwyn.
- Y dyddiad y gwnaed y gŵyn.
- Pwy ymdriniodd â’ch cwyn?
- Y dyddiad y cawsoch y manylion am eich hawl i adolygiad.
Fel arall, cewch gwblhau’r ffurflen gais ar gyfer adolygiad, sydd ar gael ar wefan SCHTh Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
A oes modd ichi ymchwilio i’m cwyn eto fel rhan o’r broses adolygu?
Na, ni allwn ymchwilio i’ch cwyn eto. Gallwn ond asesu sut y cafodd eich cwyn ei thrin a pha un ai a oedd canlyniad eich cwyn yn rhesymol a chymesur.
Beth fydd yn digwydd unwaith y bydd y cais am adolygiad wedi’i gyflwyno?
Byddwn hefyd yn cysylltu ag Adran Safonau Proffesiynol yr Heddlu ac yn gofyn iddynt ddarparu unrhyw wybodaeth sydd ganddynt am eich cwyn a’r ffordd y cafodd ei thrin.
Unwaith y byddwn wedi derbyn yr holl wybodaeth, cyfeirir yr adolygiad at sefydliad allanol ac annibynnol a fydd yn cynnal yr adolygiad ac yn cyfeirio’u canfyddiadau at SCHTh, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad yn ysgrifenedig.
Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd er mwyn cael gwybod sut yr ydym yn prosesu gwybodaeth mewn perthynas â chwynion ac adolygiadau.
Beth yw ystyr ‘Wedi’i Gynnal’ a ‘Heb ei Gynnal’ mewn perthynas â chanlyniad fy adolygiad?
Os yw cwyn yn cael ei chynnal, mae’n golygu nad oedd y gwasanaeth a ddarparwyd gan yr heddlu wedi cyrraedd y safon y gallai unigolyn rhesymol ei ddisgwyl.
Os nad yw cwyn yn cael ei chynnal, mae’n golygu bod y gwasanaeth a ddarparwyd gan yr heddlu wedi cyrraedd y safon y gallai unigolyn rhesymol ei ddisgwyl.
A gaf i apelio yn erbyn penderfyniad yr adolygiad?
Does dim hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad yr ydych wedi’i dderbyn o’r adolygiad o’ch cwyn. Bydd angen ichi geisio cyngor cyfreithiol annibynnol os nad ydych chi’n credu bod eich adolygiad wedi’i drin yn unol â’r gyfraith.
Rwyf eisiau gwneud cwyn am benderfyniad yr adolygiad
Os yw cwyn yn ymwneud â’r anfodlonrwydd â’r penderfyniad yn unig, ni fydd y mater hwn yn cael ei drin fel cwyn ac ni ailymwelir â’r penderfyniad. Fel y crybwyllwyd uchod, bydd angen ichi geisio cyngor cyfreithiol annibynnol am y camau nesaf sydd ar gael ichi.
Mae angen cymorth arnaf i roi gwybodaeth ichi am fy nghwyn neu adolygiad
Rydym yn anelu i wneud ein gwasanaethau’n hygyrch i bawb. Os oes gennych ofyniad penodol, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn eich helpu. Mae ein manylion fel a ganlyn: