Llysgenhadon Ieuenctid
Er mwyn sicrhau fod gan bobl ifanc lais ar faterion pllsimona a throsedd, sefydlodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Fforwm Ieuenctid gyda Llysenhadon Ieuenctid ym mis Rhagfyr 2018.
Ein nod gyda’r cynllun Llysgenhadon Ieuenctid yw sicrhau fod cynifer o bobl ifanc â phosibl yn cael cyfle i lunio dyfodol plismona ac atal troseddu yn eu hardal.
Beth yw'r Cynllun Llysgenhadon Ieuenctid?
Mae ein Llysgenhadon Ieuenctid yn:
- Darparu cyfleoedd i bobl ifanc gael dweud eu dweud ar faterion yn ymwneud a phlismona a throseddu o fewn eu cymunedau;
- Galluogi pobl ifanc i ddylanwadu a herio penderfyniadau;
- Yn ein helpu i ddeall profiadau pobl ifanc o droseddu a phlismona fel y gallwn sicrhau ein bod yn diogelu plant a phobl ifanc yn llwyddiannus ac yn hyrwyddo eu lles.
Bydd Llysgenhadon Ieuenctid yn:
- Helpu ni i nodi beth yw blaenoriaethau pobl ifanc;
- Creu ymgyrchoedd cyffrous a fydd yn codi ymwybyddiaeth o flaenoriaethau pobl ifanc;
- Ymgynghori â phobl ifanc ar faterion plismona a throsedd yn lleol a rhoi adborth i'r Fforwm Ieuenctid;
- Cefnogi’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd gyda’i waith craffu drwy fynychu rhai cyfarfodydd i herio penderfyniadau, darparu argymhellion, a dylanwadu ar newid er budd pobl ifanc yn ein hardal.
Beth sydd ynddo i bobl ifanc?
- Credydau amser tempo time, y gellir eu cyfnewid am wasanaeth neu weithgaredd lleol;
- Cwrdd â ffrindiau newydd o bob rhan o Ganolbarth a Gorllewin Cymru;
- Cyfle i ddatblygu sgiliau newydd;
- Dylanwadu ar newidiadau cadarnhaol;
- Treuliau a dalwyd a lluniaeth yng Nghyfarfodydd y Fforwm Ieuenctid;
- Profiad gwych i gyfeirio ato ar CV
Sut i ymgeisio?
Rydym yn recriwtio ar gyfer Llysgnehadon Ieuenctid ar hyn o bryd.
Os ydych chi'n byw yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Powys, rhwng 14 a 25 oed, a bod hyn yn swnio fel rhywbeth yr hoffech chi fod yn rhan ohono, yna gwnewch gais nawr, trwy;
- Anfon e-bost atom i OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk, a byddwn yn anfon ffurflen gais atoch, neu;
- Lawrlwythwch y ffurflen gais drwy'r ddolen ar ochr dde'r dudalen hon